Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2022
Amser:
09.30 -
12.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12856
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Mark Lawrie, Street Games Claire Lane, Street Games Fiona Reid, Chwaraeon Anabledd Cymru Gary Lewis, Urdd Gobaith Cymru Jo Jones, Urdd Gobaith Cymru Emily Reynolds, Youth Sport Trust Melitta McNarry, Prifysgol Abertawe |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Llongyfarchodd y Cadeirydd dîm pêl-droed dynion Cymru ar gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd Fifa.
1.3 Llongyfarchodd y Cadeirydd hefyd y tîm a oedd yn gyfrifol am gais Wrecsam am Ddinas Diwylliant y DU 2025.
1.4 Tynnodd y Cadeirydd sylw at y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol a gafodd ei lansio fis Mai i gynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu canu offeryn yn yr ysgol. Nododd y Cadeirydd hefyd y cafodd cynllun peilot Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth y DU ei lansio i brynu lleoliadau a’u rhentu’n ôl i weithredwyr am gyfradd decach, er mwyn sicrhau eu dyfodol a’u helpu i dyfu. Roedd y rhain yn fentrau a argymhellwyd gan y Pwyllgor hwn, a’r Pwyllgor a’i rhagflaenodd yn y Bumed Senedd.
2 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag elusennau chwaraeon (1)
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr StreetGames a Chwaraeon Anabledd Cymru.
2.2 Cytunodd StreetGames i ddarparu gwybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i'r sesiwn.
3 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag elusennau chwaraeon (2)
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Urdd Gobaith Cymru a'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.
4 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Melitta McNarry, Athrofa Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, Prifysgol Abertawe.
2.2 Cytunodd Melitta McNarry i ddarparu gwybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i'r sesiwn.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch Rheoliadau Drafft Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Ôl-drafodaeth breifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Diogelwch Ar-lein
8.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyfreithiol mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
8.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chytunodd i ysgrifennu i fynegi diddordeb mewn mynd i unrhyw sesiwn friffio gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol.
9 Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd: Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft
9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd gyda'i farn.